Back
Ysgol arbennig Caerdydd yn dod allan o fesurau arbennig

Nid yw Ysgol Uwchradd Woodlands yng Nghaerdydd dan fesurau arbennig gan Estyn, yr arolygiaeth addysg yng Nghymru, mwyach. 

Daw'r penderfyniad ar ôl i arolygwyr ganfod bod yr ysgol arbennig, â chymorth yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De, wedi gwneud cynnydd cadarn a sylweddol wrth fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan Estyn pan roddwyd Ysgol Uwchradd Woodlands dan fesurau arbennig ym mis Ionawr 2016. 

Yn dilyn ymweliad dilynol, gwnaeth arolygwyr Estyn sylwadau ar ethos gofalgar a diwylliant cefnogol yr ysgol, a nodwyd bod brwdfrydedd ac egni ymysg y staff.Mae'r gwelliannau ym mhrofiadau dysgu wedi arwain at welliannau sydyn yn safonau llesiant staff a disgyblion. 

Dywedodd Mrs Sian Thomas, Pennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Woodlands:"Rydym wrth ein bodd bod holl waith caled y staff, y disgyblion a'r Llywodraethwyr yn Woodlands wedi cael ei gydnabod. 

"Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y staff, y disgyblion, y rhieni a'r Corff Llywodraethu ers dod yn Bennaeth Dros Dro ym mis Ebrill y llynedd.Fel tîm cryf o bobl yn rhannu'r un weledigaeth, rydym wedi gweithredu ar gyngor Consortiwm Canolbarth y De a'r Awdurdod Lleol, ac rydym yn gwerthfawrogi'r holl arweiniad arbenigol gan ysgolion arbennig eraill ac asiantaethau allanol. 

"Rydym bob amser yn rhoi ein disgyblion yn gyntaf, ac rydym o hyd yn chwilio am ddulliau o wella a chefnogi ein disgyblion er mwyn iddynt gyflawni eu potensial yn llawn a pharatoi eu hunain ar gyfer bywyd ar ôl ysgol. 

"Mae dod allan o fesurau arbennig, yn ogystal â chodi i gategori ysgol oren Llywodraeth Cymru, yn hynod o arwyddocaol.Ond megis cychwyn arni rydym, a hyderaf y byddwn yn parhau i weld gwelliant parhaus yn Ysgol Uwchradd Woodlands â chymorth y gymuned ysgol gyfan ac fel rhan o Gampws Dysgu'r Gorllewin." 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Rwyf yn hynod o falch o weld y cynnydd sylweddol a wnaed yn Ysgol Uwchradd Woodlands yn cael ei gydnabod gan arolygwyr Estyn. 

"Ers i'r ysgol gael ei rhoi dan fesurau arbennig ym mis Ionawr 2016, mae'r awdurdod lleol, â chefnogaeth y consortiwm, wedi cymryd camau i alluogi'r ysgol i ddarparu gwell safonau.Mae'r arweinyddiaeth a'r llywodraethu wedi cryfhau ac rydym wedi buddsoddi yn amgylchedd dysgu'r ysgol. 

"Mae Ysgol Uwchradd Woodlands, Ysgol Riverbank ac Ysgol Tŷ Gwyn wedi datblygu'r dull gweithio mewn partneriaeth yn sylweddol yn yr ardal leol - gan arwain at eu penderfyniad i gyfuno fel Campws Dysgu'r Gorllewin ers y mis diwethaf - ac mae'r cydweithio hwn yn dangos canlyniadau cadarnhaol." 

Nododd arolygwyr Estyn fod nifer o ddisgyblion ag anawsterau iaith a chyfathrebu ar lafar yn hyderus wrth gyfrannu mewn dosbarth ac i'r ysgol gyfan a bod disgyblion eraill yn dangos parch ac yn gwrando'n astud. 

Nodwyd bod ymddygiad disgyblion wedi gwella ers arolwg mis Ionawr 2016, a bod nifer y gwaharddiadau tymor penodedig wedi gostwng yn sylweddol. chymorth staff, mae disgyblion yn parchu ei gilydd, y staff a'u hamgylchedd. 

Cliciwch yma i weld adroddiad llawn Estyn 2018 

Cliciwch yma i weld crynodeb o system gategoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru