Back
Manylion pellach am fuddsoddiad ysgol gwerth £284m y ddinas wedi’u rhyddhau gan Gyngor Caerdydd
Mae’r cynllun manwl sydd y tu ôl i'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd wedi'i ddatgelu.

Cydariennir y buddsoddiad o £284m gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru, yn rhan o Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif fydd yn dechrau yn 2019. Mae hyn yn cynnwys: 

Ysgolion Uwchradd

·         Ailadeiladu ac ymestyn tair ysgol uwchradd - Willows, Cathays a Cantonian

·         Ailadeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan, ac

·         Ymestyn Ysgol Uwchradd Caerdydd i roi lle i 1,500 o ddisgyblion, cynnydd ar 1,200, yn ogystal â chweched dosbarth

Byddai'r pum cynllun ysgol uwchradd yn creu 8 dosbarth mynediad ychwanegol, gan ateb cynnydd mewn galw a ragwelir o 2019 ymlaen. Byddai hefyd yn arwain at y dair ysgol uwchradd yng Nghaerdydd sydd â’r sgoriau isaf o ran cyflwr yr adeiladau - Willows, Fitzalan a Cantonian – yn cael eu hadnewyddu’n llwyr. 

Ysgolion Cynradd

·         Dyblu maint Nant Caerau, Y Tyllgoed a Phen-y-Pil, yn eu galluogi i roi lle i 420 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa

·         Caiff Ysgol Gynradd y Santes Fair ei hailadeiladu, a chaiff ei maint, sy’n rhoi lle i 210 o ddisgyblion ar hyn o bryd, ei ddyblu

Ysgolion Arbennig

Mae cynigion band B Caerdydd yn cynnwys ymestyn ac ailsiapio darpariaeth anghenion arbennig ar gyfer y ddinas.Caiff pedair ysgol arbennig newydd eu hadeiladu, gan ailalinio darpariaeth i fodloni anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu difrifol a lluosog, awtistiaeth, anableddau dysgu difrifol a chymhleth ac anghenion iechyd a llesiant emosiynol yn y ffordd orau.

Yn rhoi sylwadau ar y cynigion, dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:“Y buddsoddiad o £284m yn ein hysgolion yw’r fwyaf y mae Caerdydd erioed wedi’i gael.Bydd yn ein galluogi i gynyddu’r momentwm rydym wedi’i greu trwy’r ystod cyffrous o ysgolion newydd rydym wedi’i greu gyda Llywodraeth Cymru dros flynyddoedd diweddar, a pharhau i greu ysgolion ysbrydol, cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned y gall yr holl blant a phobl ifanc gyflawni eu potensial ynddynt.

 “Nid yn unig bydd y rownd fuddsoddi nesaf yn ein galluogi i barhau i adnewyddu ein hysgolion, ond bydd hefyd yn cynnig mwy o leoedd ysgol ymhob sector – cynradd, uwchradd, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a Saesneg – gan greu capasiti ychwanegol y bydd ei angen wrth i boblogaeth Caerdydd ddal i dyfu.

Mae cynlluniau sy’n cael eu cynnig yng Nghaerdydd dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif £164m (Band A) gyfredol y ddinas yn cynnwys:

·         Ysgol Bro Edern, ysgol uwchradd Cymraeg newydd â 6 dosbarth mynediad, wedi’i sefydlu yn 2012

·         Ysgol Melin Gruffydd – wedi’i hymestyn i gael 2 dosbarth mynediad yn 2012

·         Ysgol Treganna – wedi’i hymestyn i gael 3 dosbarth mynediad mewn adeiladau newydd sbon ar safle ysgol newydd yn 2013

·         Agor Pontprennau yn 2015, ysgol gynradd newydd sbon â 3 dosbarth mynediad

·         Ysgol y Wern – wedi’i hymestyn i gael 2.5 dosbarth mynediad yn 2015 (ac wedyn 3 dosbarth mynediad yn 2016)

·         Adeiladu cartref newydd i Ysgol Uwchradd Y Dwyrain, Campws Cymunedol y Dwyrain wedi rhannu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, yn agor ym mis Ionawr 2018

·         Disgwylir i'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Howardian agor yn 2018

·         Adeiladu cartref parhaol gwerth £36m ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

·         Ysgol gynradd Gymraeg newydd â 2 dosbarth mynediad, Ysgol Hamadryad, wedi’i sefydlu yn 2016 – yn symud i adeilad ysgol newydd sbon ar safle newydd yn Butetown yn 2018.

·         Mae gwaith wedi dechrau ar adeilad ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Glan Morfa, yn Sblot, ar safle newydd i ddyblu ei maint fel y bydd ganddi 2 dosbarth mynediad yn 2018

·         Mae ysgol newydd sbon yn cael ei hadeiladu ar gyfer Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal, yn Ystum Taf. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2018

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:“Mae ein cynlluniau’n cynnwys ymrwymiad i ymestyn darpariaeth Gymraeg a dewis rhieniol yng Nghaerdydd.

 “Ers 2012 rydym wedi cynyddu'n sylweddol capasiti yn addysg Gymraeg ledled y ddinas ac rydym wrthi'n adeiladu tair ysgol gynradd Gymraeg newydd arall.Bydd y cynigion ym mand B yn adeiladu ar hyn trwy ymestyn dwy ysgol gynradd Gymraeg arall.  

 “Yn ogystal â’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae Caerdydd 2020 – ein gweledigaeth am addysg a dysgu yng Nghaerdydd – yn glir yn ymrwymo i gynnig mwy o lefydd ysgol, gan sicrhau bod darpariaeth ar gael i bob teulu sy’n dewis addysg Gymraeg.”

Byddai’r projectau wedi’u cynnwys yn adroddiad y cabinet yn destun ymgynghori a chynllunio.

Bydd y cabinet yn trafod yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 14 Rhagfyr, ac mae copi llawn ar gael i’w ddarllen ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd