Back
Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar newidiadau i drefn derbyn i ysgolion y ddinas

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar gynigion i ymgynghori ar newidiadau i'r drefn derbyn ysgolion yng Nghaerdydd heddiw,16 Tachwedd 2017. 

Daeth adroddiad i'r Cabinet yn ganlyniad wedi i'r cyngor gomisiynu Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i sut y mae awdurdodau lleol yn rheoli trefniadau derbyn i ysgolion, er mwyn gweld a oes unrhyw beth y gallai Caerdydd ystyried ei gyflwyno wrth i'r galw am lefydd gynyddu. 

Darganfu ymchwil Caerdydd fod trefniadau derbyn y cyngor yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Canfu'r ymchwil fod y trefniadau yn ddull effeithiol o fynd i'r afael â cheisiadau derbyn i ysgolion, er gwaethaf heriau poblogaeth sy'n cynyddu. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Rydym o hyd yn edrych am ffyrdd o sicrhau ein bod yn defnyddio'r llefydd ysgol sydd ar gael mewn modd sydd yn ateb orau anghenion y cymunedau lleol y mae ein hysgolion yn eu gwasanaethu. 

"Fel y dywed yr adroddiad ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae manteision ac anfanteision i'r dewisiadau sydd dan sylw. Drwy roi'r cynigion hyn allan i ymgynghori'n gyhoeddus arnynt, gallwn fesur barn ystod o randdeiliaid, y gallwn eu defnyddio i siapio trefn dderbyn ysgolion yn y ddinas. 

"Mae'n rhaid i'r cyngor adolygu ei drefniadau derbyn i ysgolion bob blwyddyn. Gan fod y rhain wedi aros yr un fath yng Nghaerdydd ers 2001, mae'n bryd archwilio manteision y dewisiadau newydd, gan sicrhau ein bod yn cynnal trefn ymgeisio deg, dryloyw ac eglur. 

Argymhellodd adroddiad y Cabinet ymgynghori ar newidiadau i'r modd y mae'r cyngor yn dyrannu llefydd mewn ysgolion sydd wedi gor-dderbyn. Caiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu cyflwyno i Gabinet yr awdurdod lleol y gwanwyn nesaf, cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud ar wneud newidiadau o fis Medi 2019. 

Mae manylion llawn y cynigion a roddwyd ger bron y Cabinet, ynghyd â chanlyniadau ymchwil Prifysgol Caerdydd, i'w cael ar-lein ymawww.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd