Back
Hawlio ein Strydoedd yn ôl ar Ddiwrnod di-Draffig

Bydd Caerdydd yn dathlu ei ddiwrnod di-draffig mwyaf erioed pan fydd canol y ddinas wedi cau i bob math o draffig ddydd Sul, 13 Mai.

Bydd Beicio'r Ddinas HSBC hefyd yn digwydd ar yr un diwrnod i annog teuluoedd i ddod i Gaerdydd a mwynhau taith feicio o amgylch cylch 5Km ar ffyrdd sydd wedi cau. Bydd cyfanswm o 14 o ffyrdd yng nghanol y ddinas wedi eu cau i draffig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym yn dal i fireinio'r cynlluniau ar gyfer diwrnod fydd yn ffantastig i'r holl deulu yn fy marn i, ond ar hyn o bryd, rydym eisiau rhoi cyfle i bobl roi'r dyddiad yn eu dyddiaduron! Hoffwn ofyn i bawb yn y ddinas wneud nodyn ar gyfer dydd Sul, 13 Mai, pan fyddwn yn gobeithio dangos y gall peidio â defnyddio car am ddiwrnod fod yn fuddiol i'r holl ddinas.

"Bydd llawer o weithgareddau a pherfformiadau i'w mwynhau ac rydym yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl fynd i mewn ac allan o'r ddinas heb ddefnyddio ceir. Mae rhai gweithgareddau eisoes wedi'u trefnu, ond byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth ar y cynllun go iawn maes o law.

"Nid ydym eisiau eithrio unrhyw un rhag dod i ganol y ddinas, ac rydym yn annog darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i gynnig gwasanaethau ychwanegol ar ddydd Sul a thocynnau ar ddisgownt fel bod modd sicrhau bod gan bobl ddulliau gwahanol i ddod i ganol y ddinas"

Mae llawer o adloniant a gweithgareddau ar y stryd wedi eu cynllunio fydd yn addas i'r teulu ar gyfer Stryd y Castell a Heol y Gogledd.

Ymhlith y rhain mae:

  • Reidwyr styntiau BMX yn defnyddio blwch neidio
  • Cerddoriaeth fyw a pherfformiadau
  • Gweithgareddau a gemau
  • Ramp bwrdd-sglefrio
  • Beiciau nextbike a Peddle Power
  • Wal ddringo
  • Trac beicio mynydd
  • Gwybodaeth ar drafnidiaeth gynaliadwy

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ar y diwrnod - un ai drwy roi adloniant neu helpu - anfon ymholiadau atdiwrnoddidraffig@caerdydd.gov.uk

Gall beicwyr sydd am ymuno â Beicio'r Ddinas HSBC gofrestru a chael rhagor o wybodaeth yma -https://www.letsride.co.uk/events/cardiff

Nododd y Cyng. Wild: "Mae oddeutu 108,000 o geir yn dod i mewn neu allan o ganol y ddinas dros gyfnod o 24 awr arferol, ac ar hyn o bryd dim ond 5,300 o bobl sy'n dewis beicio dros yr un cyfnod amser. Mae'r Cyngor yn awyddus i newid yr ystadegau hyn, rydym eisiau gwneud popeth hyd eithaf ein gallu i annog dulliau teithio cynaliadwy a hoffem weld 20% o weithlu Caerdydd yn beicio i'w gwaith erbyn 2026. Byddai'n trawsnewid y modd y mae'r ddinas yn edrych ac i'w deimlo. Gobeithiaf y gallwn adeiladu ar y digwyddiad hwn a dod â llawer o Ddiwrnodiau Di-draffig i'r ddinas bob blwyddyn. Rydym eisiau i bobl weld drostynt eu hunain pa mor dda fyddai'r amgylchedd i bawb gyda llai o geir ar ein ffyrdd."

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i fonitro ansawdd yr aer yng nghanol y ddinas ar y diwrnod, i ddeall yn well gyfraniad y tagfeydd a'r llif traffig at yr aer yr ydym yn ei anadlu yng nghanol y ddinas.

Mae'r Cyngor wedi lansio papur gwyrdd ar Aer Glân yn y ddinas ac yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn y sgwrs am y syniadau mawr a allai lunio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a golwg a naws y ddinas yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân ar gael i'w weld yma https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/papur-gwyrdd-trafnidiaeth-ac-aer-glan/Pages/default.aspxac mae cyfres o gwestiynau wedi eu holi ym mhob adran er mwyn derbyn adborth gan breswylwyr ar y cynigion a'r syniadau cyn cau'r ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf.

Sut mae cymryd rhan - ymunwch yn y sgwrs drwy:

Bydd y llwybr beics yn dechrau ar Rodfa'r Brenin Edward VII, ac yna i Boulevard de Nantes, i lawr Heol y Gogledd tuag at Ganol y Ddinas, ar Heol y Dug, Stryd Fawr, i lawr Heol Eglwys Fair at ‘Walkabout', yn ôl i fyny Heol Eglwys Fair, ar Stryd Wood, i fyny Stryd y Castell, ar hyd Heol y Dug, i fyny Heol y Gogledd at y gyffordd â Colum Road, yn ôl i lawr Heol y Gogledd, ar Heol Corbett ac yna yn ôl i Rodfa'r Brenin Edward VII.