Back
Gallai prisiau tacsis godi yn y Flwyddyn Newydd


Gallai prisiau tacsis yng Nghaerdydd godi os caiff cynnig gan Dragon Taxis ei gymeradwyo

Caiff y newidiadau arfaethedig i'r gost o deithio mewn Tacsi Cerbyd Hacni eu trafod gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr.

Os cytunir ar y cynnig, bydd y gost ar y mesurydd pan fydd cwsmer yn mynd i mewn i dacsi yn codi o £2.30 i £2.50 gyda chynnydd o 10 ceiniog y filltir - yn codi'r gyfradd o £1.70 y filltir i £1.80.

Ym mis Medi 2009, cymeradwyodd y Cyngor Fynegai Prisiau Cerbydau Hacni sy'n cyfrifo'r costau sy'n gysylltiedig â bod yn yrrwr tacsi gyda'r arian y byddant yn ei dderbyn mewn ffioedd. Digwyddodd y cynnydd diwethaf o ran pris ym mis Rhagfyr 2015.

Ers hynny, mae cyfrifiadau yn dangos bod costau rhedeg cerbyd wedi codi'n sylweddol. Mae costau yswiriant wedi codi gan 22%, mae cydrannau cerbydau wedi codi gan 40%, mae cost disel wedi codi gan 12% ac mae cost petrol wedi codi gan 15%. Yr unig ffi sydd wedi gostwng yw cost y ffïoedd trwydded i'r Cyngor sydd wedi gostwng gan 5%.

Yn seiliedig ar daith o ddwy filltir, ar hyn o bryd mae Caerdydd yn y 220fedsafle mewn tabl cynghrair o'r lleoedd drutaf i gael tacsi yn y DU allan o 370 o siroedd, dinasoedd neu feysydd awyr.

Pe bai'r cynnydd mewn prisiau yn cael eu cymeradwyo, byddai Caerdydd yn symud i fyny'r tabl gan tua 10 lle. Byddai dal tacsi yng Nghaerdydd wedyn yn costio'r un peth â chael tacsi mewn 27 ardal arall gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, Swydd Aberdeen, Caergaint, Ipswich a Scarborough.

O dan y prisiau newydd arfaethedig, byddai taith o dair milltir yn codi'r ffi gan 6.7% yn ystod y dydd a 6% gyda'r nos. Byddai cost y daith hon yn codi o £7.30 i £7.80 yn ystod y dydd ac o £8.30 i £8.80 gyda'r nos.

Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnydd mewn prisiau, bydd rhaid hysbysebu'r amrywiad yn y tariff am 14 diwrnod er mwyn rhoi cyfle i bobl wrthwynebu. Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhagwelir y gallai'r prisiau newydd ddechrau mor gynnar ag 8fedIonawr 2018.