Back
Cyfle i rannu eich barn ar gynigion cyllideb y Cyngor

 

Mae ymgynghoriad chwe wythnos o hyd ar gynigion cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2018/19 wedi dechrau heddiw, ddydd Iau, Tachwedd 2, ac mae trigolion yn cael eu hannog i rannu eu barn.

 

Mae'r Cyngor angen dod o hyd i £23m i fantoli'r cyfrifon a chytunodd Cabinet y cyngor heddiw (dydd Iau, Tachwedd 2) ar gynigion amlinellol ar gyfer ymgynghoriad.

 

Cynhelir yr ymgynghoriad â'r cyhoedd tan hanner dydd, dydd Iau, Rhagfyr 14.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n hynod bwysig bod ein trigolion yn achub ar y cyfle i gyfrannu at broses y gyllideb. Mae gennym syniadau clir ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud ond bydd yr ymgynghoriad chwe wythnos ar y gyllideb yn eu galluogi nhw i ddweud wrthym yr hyn sydd wir o bwys iddynt. Rydym eisiau gwneud y penderfyniadau cynnar a gallwn ond gwneud hynny trwy wrando ar y trigolion."

 

Yn rhan o'r cynigion, mae'r Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau sy'n cynnwys:

  • Cynnydd o 3.7% yn y Dreth Gyngor (78c yr wythnos ar eiddo Band D), i godi £4.7 miliwn

  • Cap o 30% ar bwysau ariannol ysgolion (heblaw am dwf yn nifer disgyblion), i arbed £1.5 miliwn

  • Defnyddio £2.35 miliwn o arian wrth gefn

  • Dod o hyd i £14.3 miliwn mewn arbedion a rhagor o gyfleoedd refeniw

 

Mae cynigion penodol yn cynnwys:

  • Codi pris prydau ysgol 10c fesul pryd

  • Codi pris am wasanaeth dod o hyd i gartref i gŵn bach o £10, a dod o hyd i gartref i gŵn o £20.

  • Codi'r gost am wasanaethau claddu ac amlosgi o £20

  • Rhoi'r gorau i gyhoeddi papur newyddion chwarterol y Cyngor, ‘Ein Caerdydd'

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Nid oes unrhyw ddewisiadau rhwydd. Nid yw cyni ariannol wedi dod i ben. Mae ein cynllun yn cynnwys codi'r Dreth Gyngor, ond nid yw'r Dreth Gyngor ar ei phen ei hun yn mynd yn agos at gau'r bwlch.

"Bydd cynnydd yn ein galluogi ni i gynnal rhai o'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn rhoi gwerth arnyn nhw, y gellid eu colli fel arall. Mae'r pwysau oherwydd y galw rydym yn ei wynebu yn cael eu gwerthuso'n barhaus ac os bydd rhaid i'r Dreth Gyngor godi er mwyn bodloni'r galw hynny, ni allwn ddiystyru rhagor o gynnydd ar y pwynt hwn.

 

"O dan y cynigion hyn, bydd ysgolion yn derbyn £2 filiwn ychwanegol ar gyfer twf yn niferoedd y disgyblion a £3.5 miliwn ychwanegol ar gyfer pwysau eraill oherwydd galw, ond - fel y gwnaethom y llynedd - rydym yn gofyn i ysgolion ddod o hyd i rywfaint o arian a fydd yn cyfrannu at bethau fel codiadau cyflog neu filiau cyfleustodau.

 

"Mae'r ymgynghoriad hwn ac Adroddiad y Cabinet yn rhestru'n strategaeth ar gyfer cyflwyno cyllideb gytbwys. Rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn trigolion rhag holl rym y toriadau ac rwyf eisiau iddynt wybod y byddwn yn gwrando ar eu barn.

 

"Nid oes llawer o amheuaeth fod rhaid i'r Cyngor barhau i foderneiddio a bydd edrych ar sut rydym yn defnyddio technoleg a gwasanaethau digidol i'n helpu i greu arbedion a gwella perthnasoedd gyda dinasyddion yn chwarae rôl fawr wrth fynd ymlaen.

 

"Rydym yn gweithio trwy gyfnod hynod heriol yn ariannol. Mae ein poblogaeth yn parhau i dyfu ac mae'r galw am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn tyfu, ond rydym yn cael llai o arian mewn termau real gan y Llywodraeth i ddarparu'r gwasanaethau y mae ein dinasyddion yn eu disgwyl."

 

Er bod Cyngor Caerdydd wedi derbyn cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru o 0.2% (neu £954,000) ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'r pwysau oherwydd galw sy'n wynebu'r Cyngor oherwydd y twf yn y boblogaeth ac anghydraddoldeb, ynghyd â phwysau drwy gostau megis chwyddiant, yn golygu bod costau darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol gan arwain at fwlch yn y gyllideb.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Pe byddai'r ‘Arc Ddeheuol' yng Nghaerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain yn cael ei hystyried yn un awdurdod lleol, hi o bell ffordd fyddai'r dlotaf yng Nghymru." Er gwaethaf hynny, mae Caerdydd yn derbyn yr ail lefel isaf o gefnogaeth gan y llywodraeth o holl awdurdodau lleol Cymru. Yn amlwg mae hyn, ynghyd â'r twf yn y boblogaeth rydym yn ei weld, yn creu pwysau aruthrol ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

 

"Mae'n bwysig ein bod yn agored ac yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â'r dewisiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud. Dyna pam rydym eisiau i'n trigolion ddweud eu dweud.

"Yn amlwg, bydd dal rhaid gwneud toriadau ac rwy'n credu bod pobl yn sylweddoli hynny. Mae'n bwysig ein bod yn blaenoriaethu gwasanaethau allweddol a'r ymgynghoriad hwn yw cyfle'r cyhoedd i ddweud wrthym beth sydd o bwys iddynt. Rwyf eisiau annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Mae eich Cyngor yn darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar bawb ledled ddinas - peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael eich clywed."

 

Gall y cynigion cyllideb drafft, sy'n mynd allan ar gyfer ymgynghoriad, newid cyn pennu'r gyllideb derfynol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Cymerir barn y cyhoedd i ystyriaeth ac felly hefyd effaith setliad terfynol y Cyngor a gaiff ei ddatgelu fis Rhagfyr.

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol a pharhaus gyda bwlch yn y gyllideb o £23 miliwn ar gyfer 2018/19 a diffyg posibl o £73 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny ar ben dros £200 miliwn mewn arbedion y daethpwyd o hyd iddyn nhw dros y 10 mlynedd diwethaf.

 

Gall unrhyw drigolion sydd am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad wneud hynny drwy edrych ar y ddogfen Newid i Gaerdydd a llenwi'r holiadur ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/cyllideb. Bydd y rhain ar gael o ddydd Iau, Tachwedd 2, ymlaen.

 

Bydd copïau caled hefyd ar gael i bobl mewn llyfrgelloedd a hybiau neu gallwch ofyn am fersiwn copi caled drwy e-bostio cyllideb@caerdydd.gov.uk neu ffonio 02920 873854. I weld fersiwn lawn o'r cynigion cyllideb, darllenwch Adroddiad Cabinet y Cyngor ar 2 Tachwedd 2017, ynwww.cardiff.gov.uk/budget.

 

Hefyd, caiff copïau caled eu dosbarthu i drigolion mewn rhai digwyddiadau cymunedol yn y ddinas. Bydd manylion y digwyddiadau hynny ar gael drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac arhttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Pages/default.aspx.

 

10 peth mae angen i chi wybod am Gynigion Cyllideb 2018/19 Caerdydd

 

  • Mae Cyngor y Ddinas yn wynebu bwlch yn y gyllideb o £23 miliwn y flwyddyn nesaf (2018/19) a diffyg posibl o £73 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

  • Daethpwyd o hyd i £200 miliwn mewn arbedion eisoes dros y ddeng mlynedd diwethaf.

  • Gadawodd 1,600 o gyflogeion llawn amser y Cyngor fel rhan o arbedion cyllidebol yn y cyfnod pedair blynedd 2013/14-2016/17.

  • Mae'r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru - sy'n cynnwys cynnydd o 0.2% (£954 mil) - ychydig yn fwy ffafriol na'r hyn y gwnaethom gyllidebu amdano.

  • Fodd bynnag, mae'n doriad mewn termau real oherwydd chwyddiant a mwy o bwysau oherwydd galw.

  • Er mwyn llenwi'r bwlch o £23 miliwn yng nghyllideb 2018/19, mae'r Cabinet yn cynnig y canlynol: codi'r Dreth Gyngor o 3.7% - 78c yr wythnos ychwanegol yn achos tŷ Band D - er mwyn codi £4.7 miliwn net. Dod o hyd i arbedion o £14.3 miliwn; Defnyddio £2.4 miliwn o arian wrth gefn; Cyfyngu twf yng nghyllidebau ysgolion i 30% i arbed £1.5 miliwn.

  • Ar hyn o bryd, dim ond 27% o'n cyllideb o £587 miliwn sy'n dod o'r dreth gyngor. Bydd cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.7% yn ychwanegu £4.7 miliwn net, gan ein galluogi i barhau i gyllido rhai o'r gwasanaethau anstatudol y mae trigolion eu heisiau.

 

  • Bydd cyllidebau ysgol yn derbyn £2 filiwn at dwf yn nifer y disgyblion a £3.5 miliwn at bwysau eraill, ond rydym yn gofyn iddynt ddod o hyd i rywfaint o arian a fydd yn mynd tuag at bethau megis codiadau cyflog a biliau ynni.

 

  • Dros y degawd diwethaf, tyfodd poblogaeth Caerdydd o 10% (35,000 o bobl) a rhagamcanir y bydd yn tyfu 20% rhwng nawr a 2037. Dros y 20 mlynedd nesaf, bydd mwy o dwf ym mhoblogaeth Caerdydd na'r 21 o ardaloedd Cyngor eraill yng Nghymru gyda'i gilydd.

 

  • Bydd y twf hwn yn rhoi straen ar seilwaith y ddinas ac yn dwysáu galw yn sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd yn codi'r gost am ddarparu'r gwasanaethau hynny, a bydd hynny'n arwain at y bwlch a ragamcanir o £73 miliwn yn y Gyllideb dros y tair blynedd nesaf.

 

  • Pe bai'r ‘Arc Ddeheuol' yng Nghaerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain yn cael ei hystyried yn un awdurdod lleol, hi o bell ffordd fyddai'r dlotaf yng Nghymru. Er gwaethaf hynny, mae Caerdydd yn derbyn yr ail lefel isaf o gefnogaeth gan y llywodraeth o holl awdurdodau lleol Cymru.

 

Gall unrhyw drigolion sydd am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad wneud hynny drwy edrych ar y ddogfen Newid i Gaerdydd a llenwi'r holiadur ar-lein ynhttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Pages/default.aspx. Bydd y rhain ar gael o ddydd Iau, Tachwedd 2, ymlaen.

 

Mae'r ymgynghoriad ar y gyllideb yn dod i ben ddydd Iau, 14 Rhagfyr. Bydd copïau caled hefyd ar gael i bobl mewn llyfrgelloedd a hybiau neu gallwch ofyn am fersiwn copi caled drwy e-bostio cyllideb@caerdydd.gov.uk neu ffonio 02920 873854. I weld fersiwn lawn o'r cynigion cyllideb, darllenwch Adroddiad Cabinet y Cyngor ar 2 Tachwedd 2017, ynhttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Pages/default.aspx.

 

 

 

 

 

 

STRATEGAETH Y GYLLIDEB 2018/19

£000

£000

 

 

 

 

 

Cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.7%

4,686

 

 

Ysgolion - cap o 30% ac eithrio twf yn nifer y disgyblion

1,461

 

 

Defnyddio arian wrth gefn

2,350

 

 

 

 

8,497

 

Arbedion

 

 

 

Creu Incwm

2,900

 

 

Cydweithredu

323

 

 

Prosesau Busnes gan gynnwys digideiddio

3,726

 

 

Adolygiad o'r gwariant allanol

4,546

 

 

Atal ac Ymyrryd yn Gynnar

2,801

 

 

 

 

14,296

 

 

 

 

 

STRATEGAETH Y GYLLIDEB

 

22,793